Llythyr Bugeiliol i’r holl ffyddloniaid ar gyfer Dydd Sul yr Adfent 2010

Dewch i weld! “Dewch i weld” yw’r gwahoddiad mae Pwyllgor Sefydlog yr Esgobaeth wedi’i ddewis fel ein harwyddair ar gyfer 2011. Aelodau’r Pwyllgor Sefydlog yw eich cynrychiolwyr a enwebwyd ac, fel eich Esgob, rwy’n gweithio gyda nhw er mwyn darganfod ffyrdd i gefnogi holl fywyd “Teulu Asaff”. Mae’r arwyddair a ddewiswyd ar gyfer 2011 yn codi o wahoddiad sy’n ymddangos dwywaith ym mhennod Ioan. Yn y cyntaf (adnod 39), mae’r Iesu yn rhoi gwahoddiad “dewch i weld” i ddau o ddisgyblion y dyfodol i le mae’n byw. Yn yr ail (a 46), mae Philip, eisoes yn ddisgybl, yn gwahodd ei gyfaill Nathaniel i ddod i ddarganfod drosto ei hunan am yr Iesu. Yn y ddau achos, mae’r berfau Groegaidd gwreiddiol yn orchmynion ond mae bob gorchymyn yn mynd yn ddyfnach na’r hyn sy’n amlwg: efallai gellir eu cyfieithu, “Cyd-deithia â mi ar y daith hon a darganfydda’ drosta dy hunan.”

Dewch i weld – teithia gyda mi i ddarganfod! Dyma’r gwahoddiad mae’r Iesu yn ei roi i bawb sy’n dod yn ddisgybl iddo. Gan ei fod wedi gwahodd y cyntaf o’i ddilynwyr i ddarganfod lle’r oedd o’n byw, felly mae’r Iesu yn ein gwahodd i ddod ar y daith i ddarganfod mwy am Deyrnas y Nefoedd. Mae hyn yn fwy na thaith tuag at fywyd ar ôl marwolaeth. Mae’n ymwneud â darganfod y gallwn fyw ym mhresenoldeb Duw yn y bywyd hwn.

Oni bai ein bod yn ofalus, gall aelodaeth Eglwys fod yn ddim mwy na gwneud ein dyletswydd tuag at Dduw. Byddwn yn dod i’r adeilad wythnos ar ôl wythnos – efallai llai nac unwaith yr wythnos – down i gyfarch Duw a gobeithio bydd y ficer yn rhoi gair da ar ein rhan i’r bos. Ond mae’r Iesu wir yn gwahodd bob un ohonom i wneud llawer mwy na hyn. Mae’n ein gwahodd i wneud taith fewnol, taith sy’n cynnwys ein calonnau a’n heneidiau, lle’n gwahoddwyd i chwilio am y lleoedd lle mae cariad a sancteiddrwydd Duw yn trigo. Felly mae’r Iesu yn siarad gyda ni: “Teithia gyda mi i ddarganfod! Gwahodda fi i fod yn rhan o dy fywyd; gwranda am fy ngeiriau pan fyddi’n darllen y Beibl; edrycha arnaf i gynnig atebion i’ch gweddïau, rhanna’r pryd byddaf yn ei baratoi i chi yng ngwledd y Cymun Bendigaid.” Mae Salm 23 a5, yn dweud fod Duw paratoi gwledd i ni fwynhau: ei bresenoldeb, ei fendith a’i gariad. Ond y gwir yw, yn aml nid ydym yn rhoi digon o amser nac ymdrech i “ddod i weld” i amserau o ddistawrwydd a gweddi, i ddarllen ac addoli. Efallai nad ydym yn cymryd amser i ddim y dyddiau hyn, dim mwy na chywerth bwyd cyflym i gynhaliaeth ysbrydol.
Felly, mae “Dewch i weld” yn wahoddiad i bob un ohonom yn 2011 i ystyried sut gallwn deithio’n fwy agos gyda’r Iesu yn ein bywydau, i weld sut mae’n gallu’n bendithio, a byw gyda ni. Dewch i weld!

Ychydig adnodau yn hwyrach yn Ioan, Pennod Un, ailadroddir y gorchymyn; y tro hwn gan Philip i’w ffrind. “Tyrd i weld” yw’r gwahoddiad i ddod draw i edrych ar yr Iesu, a darganfod a fydd ei gyfaill yn darganfod yr un peth yn yr Iesu ag y mae Phillip eisoes wedi’i ddarganfod: athro sy’n cyfrannu gwir wybodaeth am Dduw a phwy sy’n byw cariad Duw drwy gyffwrdd pobl gydag iachâd a gobaith. Felly mae’r “Tyrd i weld!”, sef yr ail orchymyn nawr yn dod yn fath o wahoddiad y dylem fod yn ei estyn i’n cyfeillion a chymuned ein hunain.

Dylem fel Eglwys fod yn gwahodd pobl i ddod draw i ymuno â ni a phrofi drostynt eu hunain yr hyn y credwn mai ein haddoli’n ei gynnig, yn yr un modd ag y byddwn yn gwahodd gwesteion i’n cartrefi ac yn paratoi lluniaeth iddynt. Wrth ddewis “Dewch i weld!” fel arwyddair, rydym yn cydnabod fel teulu Esgobaethol, mae angen i ni fod yn bobl sy’n gwahodd eraill i ddod draw i brofi Duw yn eu bywydau eu hunain.

Wrth gwrs, mae hyn yn golygu mae’n rhaid i ni fyw bywyd cyffredin ac addoli sy’n ddeniadol ac ysbrydoledig. Mae angen i ni fod yn Eglwys sy’n tynnu pobl eraill i’n bywydau – nid yn unig gan ein bod yn cadw’r clwb ar fynd, ond oherwydd ein bod yn credu fod ffydd a rhywbeth i’w gynnig tuag at brofiad bywyd cyfoethocach: yn wir, y cynnig o fywyd tragwyddol.

Yn fy ngofwy eleni, rwy’n darganfod mwy a mwy ynghylch bywyd cynulleidfa fy Esgobaeth. Rwy’n gweld a deall y pryderon sy’n bodoli – mae arian yn brin, mae pobl yn poeni nad yw pobl ifanc yn cael eu tynnu i fywyd ein Heglwysi cymaint ag yr hoffem. Ond rwyf hefyd yn gweld mwy na hyn. Rwy’n gweld Eglwys sy’n meddwl am yr hyn mae arfer y ffydd Gristnogol yn gallu ei gynnig, lle mae aelodau’r gynulleidfa’n ceisio helpu ei gilydd i fod yn well disgyblion, lle mae’r canolbwynt yn troi at ansawdd bywyd ffyddlon a’n profiadau ac ansawdd y ffydd rydym yn ei gynnig i eraill.

Oherwydd hyn, credaf bydd “Dewch i weld!” yn arwyddair da. Fe’n gwahoddir ni un ac oll i ddod at yr Iesu eto i weld sut mae Duw yn dymuno gweithio yn ein bywydau. Fe’n gwahoddir ni oll i ymateb i’r gwahoddiad hwn a’i estyn i eraill. Fe’n gelwir ni i gyd i fyw’r math o fywyd Cristnogol gyda’n gilydd sy’n adlewyrchu cariad Duw ac sy’n ddeniadol i eraill. Felly gobeithiaf bydd yr arwyddair hwn yn ysbrydoli a’n harwain ni i’r flwyddyn eglwys sydd i ddod: Dewch i weld!

Dymunaf y gorau i chi yn ystod yr Adfent a Nadolig Llawen iawn i ddod.

A Pastoral Letter to all the faithful for Advent Sunday 2010

Come and see! “Come and see” is the invitation that the diocesan Standing Committee has chosen for our motto in 2011. The members of the Standing Committee are your elected representatives, and, as your bishop, I work with them in order to find ways to support the whole life of the “Teulu Asaph”. The motto which has been selected for 2011 picks up an invitation which appears twice in the first chapter of the Gospel according to John. In the first (v39), Jesus invites two of his future disciples to “come and see” where he is living. In the second (v46), Philip, already a disciple, invites his friend Nathanael to come and find out for himself about Jesus. In both cases, the original Greek verbs are commands, but each command bears a depth of meaning: I suppose they could be translated, “Accompany me on this journey and find out for yourself.”

Come and see – journey with me and find out! This is the invitation which Jesus makes to all who become his disciples. As he invited the first of his followers to find out where he was living, so Jesus invites us today to enter upon a journey to find out more about the Kingdom of Heaven. This is much more than a journey towards life after death. It is about discovering the way we can live in God’s presence in this life.

Unless we’re careful, Church membership can become nothing more than doing our duty towards God. We turn up week by week – maybe even less than once a week – we pay our respects towards God, and hope that the Vicar will put in a good word for us with the boss. But Jesus truly invites each one of us to do much more than that. He invites us to make an interior journey, a journey involving our hearts and souls, in which we’re invited to seek out the places where the love and holiness of God dwell. So Jesus speaks to us: “Journey with me and find out! Invite me to be part of your life; listen for my words to you when you read the Bible; look for me to speak answers to your prayers, share in the meal that I prepare for you in the banquet of the Holy Communion.” Psalm 23 v5 says that God spreads out a feast for us to enjoy: his presence, his blessing, and his love. But the truth is that so often we don’t give enough time or effort to “come and see”, to times of quiet and prayer, to reading, to worship. Perhaps we never take time for anything more than the fast food equivalent of spiritual sustenance.

So “Come and see” is an invitation to each one of us in 2011 to consider how we can travel more closely with Jesus in our lives, to see how he is able to bless us, and to dwell with us. Come and see!

A few verses later in John Chapter One, the command is repeated; this time by Philip to his friend. “Come and see” is the invitation to come along and take a look at Jesus, and to find out whether his friend will find in Jesus what Philip has already found: a teacher imparting real knowledge about God, and who lives out the love of God by touching people with healing and hope. So the second “Come and see!” becomes now the sort of invitation that we should be extending to our own friends and community.

In the same way that we welcome guests to our homes, and “lay on a spread” to entertain them and welcome them, so we as a Church should be inviting people to come along and join us and to experience for themselves what we believe our worship offers. In choosing “Come and see!” as our motto, we recognise that as a diocesan family we need to be people inviting others to come along and to experience God in their own lives.

Of course, this means that we have to live out a common life and worship that is inviting and inspiring. We need to be a Church which looks to draw other people into our life- and not because we are trying to keep the club going, but because we believe that faith has something to offer towards a richer experience of life: indeed, that it is the offer of eternal life.

In my visitation this year, I am discovering more and more about the life of the congregations of our diocese. I see and understand the concerns that exist – money is getting tight, and people are worried that young people are not being drawn into the life of our Churches as much as we would like. But I also see more than this. I see a Church which is thinking about what the practice of Christian faith has to offer, in which members of congregations are trying to help one another to become better disciples, where the focus is turning to the quality of faithful life and experience that we live, and the quality of faith that we’re offering to other people.

For these reasons, I think “Come and see!” is going to be a good motto. We are all of us invited to come again to Jesus to see how God wishes to work in our lives. We are all of us invited to pick up this invitation and to offer it to others. We are all of us called to live the sort of Christian life together that reflects the love of God and is inviting to others. So I hope that this motto will inspire and guide us for the coming church year: Come and see!

I wish you all the very best of Advents – and a very happy Christmas in due course.